Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 8 Tachwedd 2021
Amser:
13.30 -
14.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12482
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Peter Fox AS |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sara Moran (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.
2 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 na 21.3
2.1 SL(6)066 - Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd ar ei adroddiad drafft.
3 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
3.1 SL(6)071 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau, Teithio Rhyngwladol, Hysbysu a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.2 SL(6)067 – Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
3.3 SL(6)069 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Yn ogystal, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad pellach ynghylch geiriad y datganiad ysgrifenedig sy’n cyd-fynd â’r offeryn.
3.4 SL(6)070 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 20) 2021
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Gohebiaeth gyda’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd: Sesiwn dystiolaeth ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, a’i fod wedi derbyn gwahoddiad i roi tystiolaeth i'r Pwyllgor ar 29 Tachwedd 2021.
4.2 Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru: Cydsyniad i Lywodraeth y DU arfer pwer deddfwriaethol dirprwyedig mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru
Nododd y Pwyllgor y datganiad gan Lywodraeth Cymru.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) - trafod yr adroddiad drafft
Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmnïau a Ddiddymwyd) a chytunodd i’w gwblhau y tu allan i’r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei osod erbyn y dyddiad cau gofynnol.
7 Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol - papur briffio
Trafododd y Pwyllgor y papur briffio ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i barhau i fonitro’r Memoranda y mae Llywodraeth Cymru yn eu gosod gerbron y Senedd.
8 Cytundebau rhyngwladol a drafodwyd ar 1 Tachwedd 2021 - trafod yr adroddiad drafft
Bu'r Pwyllgor yn trafod ei adroddiad ar y cytundebau rhyngwladol a drafodwyd yn ei gyfarfod ar 1 Tachwedd 2021, a chytunodd arno. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth mewn perthynas â nifer o faterion yn ymwneud â ‘Y DU / Swistir: Confensiwn ar gydgysylltu nawdd cymdeithasol’, ac i dynnu sylw'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y cytundeb hwn. Hefyd, nododd y Pwyllgor y byddai’r adroddiad yn cael ei rannu â Phwyllgor Cytundebau Rhyngwladol Tŷ'r Arglwyddi.